Leave us your email address and we'll send you all the new jobs according to your preferences.

Property Operations Manager

Posted 1 day 20 hours ago by NATIONAL TRUST

Permanent
Full Time
Real Estate & Property Jobs
Gwynedd, Aberdaron, United Kingdom, LL53 8AB
Job Description

Summary

As a Property Operations Manager, you'll accelerate Llŷn's success as an internationally recognised visitor destination and asset for the local community.

You'll be responsible for operational leadership and smooth running of the whole operation, specific areas of responsibility include visitor welcome and service, membership, income generation, and facilities management.

The ability to communicate fluently in Welsh is essential for this role.

Crynodeb

Fel Rheolwr Gweithrediadau Eiddo, byddwch yn cyflymu llwyddiant Pen Llŷn fel cyrchfan ymwelwyr sy'n cael ei gydnabod yn rhyngwladol ac ased i'r gymuned leol

Byddwch yn gyfrifol am arweinyddiaeth weithrediadol a gwneud yn siŵr bod yr holl weithrediad yn rhedeg yn esmwyth, gyda meysydd cyfrifoldeb penodol, gan gynnwys croesawu a gwasanaeth ymwelwyr, aelodaeth, cynhyrchu incwm a rheoli cyfleusterau.

Mae'r gallu i gyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

What it's like to work here

Reporting to the General Manager, you'll be part of the Ynys Môn & Llŷn Portfolio Leadership Team holding responsibility for the daily operation of our Llŷn properties.

You'll lead a varied team of staff and volunteers, responsible for the day-to-day operations on-site, while contributing strategically to the leadership of the estate.

The Llŷn properties include Plas yn Rhiw, a 17th century manor house, Porth y Swnt, which is a unique visitor centre opened in 2014, as well as a variety of smaller places such as the old Coastguard Station at the very tip of the peninsula or Caban Griff nestled in the village of Porthdinllaen. Our busy coastal car parks at Porthdinllaen, Porthor, Aberdaron and Llanbedrog all have popular welcome facilities and there's an additional staff hub located at Cwrt, Uwchmynydd.

Sut brofiad yw gweithio yma?

Gan fod yn atebol i'r Rheolwr Cyffredinol, byddwch yn rhan o'r Tîm Arweinyddiaeth Portffolio Môn a Llŷn fydd yn gyfrifol am weithrediad dyddiol ein heiddo ym Mhen Llŷn.

Byddwch yn arwain tîm amrywiol o staff a gwirfoddolwyr sy'n gyfrifol am weithrediadau o ddydd i ddydd ar y safle, tra'n cyfrannu'n strategol i arweinyddiaeth yr ystâd.

Mae ein heiddo ym Mhen Llŷn yn cynnwys Plas yn Rhiw, maenordy o'r 17eg ganrif, Porth y Swnt, sy'n ganolfan ymwelwyr unigryw a agorodd ei ddrysau yn 2014, yn ogystal ag amrywiaeth o lefydd llai megis hen Orsaf Gwylwyr y Glannau ar ben eithaf y penrhyn, neu Gaban Griff sy'n nythu yng nghesail pentref Porthdinllaen. Mae gan bob un o'n meysydd parcio arfordirol prysur ym Mhorthdinllaen, Porthor, Aberdaron a Llanbedrog i gyd gyfleusterau croesawu poblogaidd ac mae yna hwb staff ychwanegol wedi'i leoli yng Nghwrt, Uwchmynydd.

What you'll be doing

You'll work collaboratively with peers and colleagues to deliver Llŷn's visitor operation while inspiring our supporters to connect with our cause, working in partnership with the Experience and Visitor Programming Manager, Facilities Manager, and Countryside Manager in particular, to deliver a seamless visitor experience. You'll support each of your teams to prioritise, providing the resources and direction for them, ensuring their care, confidence and capability in delivering our strategy.

You'll deputise for the General Manager at key partner meetings and in running the estate in their absence.

Flexibility is key, the role is varied and no two days are the same. Some days will be spent with teams on the ground in busy visitor facing environments, other days will be spent working with the leadership team developing longer term visions and business plans. You'll need the energy and enthusiasm to work at pace, balancing reactive tasks with strategic planning and you'll bring a positive attitude towards problem solving.

Beth fyddwch chi'n ei wneud?

Byddwch yn gweithio'n gydweithredol gyda chyfoedion a chydweithwyr er mwyn cyflawni gweithrediad ymwelwyr Pen Llŷn tra'n ysbrydoli ein cefnogwyr i gysylltu gyda'n hachos. Byddwch yn gweithio mewn partneriaeth gyda'r Rheolwr Rhaglennu a Phrofiad yr Ymwelydd, a'r Rheolwr Cefn Gwlad yn arbennig, i ddarparu profiad ymwelydd heb ei ail. Byddwch yn cefnogi eich timau i flaenoriaethu, darparu cyfeiriad ac adnoddau iddynt, gan sicrhau eu gofal a bod ganddynt yr hyder a'r gallu i ddarparu ein strategaeth.

Byddwch yn dirprwyo ar gyfer y Rheolwr Cyffredinol mewn cyfarfodydd partner allweddol ac yn rhedeg yr ystâd yn eu habsenoldeb.

Mae hyblygrwydd yn allweddol - mae'r gwaith yn amrywiol ac mae pob diwrnod yn wahanol. Bydd rhai dyddiau'n cael eu treulio gyda thimau yn y lleoliadau mewn amgylcheddau prysur sy'n darparu ar gyfer ymwelwyr, tra bydd dyddiau eraill yn cael eu treulio'n gweithio gyda'r tîm arweinyddiaeth yn datblygu gweledigaeth a chynllun busnes tymor hir. Byddwch angen yr egni a'r brwdfrydedd i weithio'n gyflym, gan gydbwyso tasgau ymatebol gyda chynllunio strategol a byddwch yn dod ag agwedd bositif tuag at ddatrys problemau.

Who we're looking for

To succeed you'll need:

  • Experience of and enthusiasm for managing a fast-paced operation
  • Experience of business planning, developing and growing income, and budget management
  • Experience of being both an inspiring leader and a great people manager, with a track record of leading diverse professional teams
  • The ability to communicate fluently in Welsh
  • To be a great collaborator and communicator, with the ability to be decisive
  • An understanding of the importance of great service, growing support for an important cause, and of presentation standards
  • Good understanding of compliance, health and safety, and the management of emergency procedures
  • A commitment to ensuring experiences are welcoming to everyone, with experience in improving accessibility in a workplace or visitor experience

Yr unigolyn rydym yn chwilio amdano

I lwyddo, bydd angen ichi feddu ar y canlynol:

  • Profiad o reoli gweithrediad sy'n symud yn gyflym, a'r brwdfrydedd i wneud hynny
  • Profiad o gynllunio busnes, datblygu a thyfu incwm a rheoli cyllideb
  • Profiad o fod yn arwain timau proffesiynol amrywiol a bod yn arweinydd ysbrydoledig a rheolwr pobl gwych, gyda hanes profedig o arwain timau proffesiynol amrywiol
  • Y gallu i gyfathrebu'n rhugl yn Gymraeg
  • Bod yn gydweithiwr ac yn gyfathrebwr gwych, gyda'r gallu i fod yn benderfynol
  • Dealltwriaeth o bwysigrwydd gwasanaeth gwych, meithrin cefnogaeth achos pwysig, ac o safonau cyflwyno
  • Dealltwriaeth dda o gydymffurfiaeth, iechyd a diogelwch a rheoli gweithdrefnau argyfwng
  • Ymrwymiad i sicrhau bod profiadau yn groesawgar i bawb, gyda phrofiad o wella hygyrchedd mewn gweithle neu o fewn profiad yr ymwelydd

The package

The National Trust has the motto 'For everyone, for ever' at its heart. We're working hard to create an inclusive culture, where everyone feels they belong. It's important that our people reflect and represent the diversity of the communities and audiences we serve. We welcome and value difference, so when we say we're for everyone, we want everyone to be welcome in our teams too.

  • Substantial pension scheme of up to 10% basic salary
  • Free entry to National Trust places for you, a guest and your children (under 18)
  • Tax-free childcare scheme
  • Rental deposit loan scheme
  • Season ticket loan
  • EV car lease scheme
  • Perks at work discounts such as gym memberships, shopping discount codes, cinema discounts
  • Holiday allowance up to 32 days relating to length of service, plus holiday purchase scheme, subject to meeting minimum criteria.
  • Flexible working whenever possible
  • Employee assistance programme
  • Free parking at most Trust places

Y pecyn

Yr arwyddair sydd wrth wraidd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw 'I bawb, am byth'. Rydym yn gweithio'n galed i greu diwylliant cynhwysol, lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn iddo. Mae'n bwysig bod ein pobl yn adlewyrchu ac yn cynrychioli amrywiaeth y cymunedau a'r cynulleidfaoedd yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth, felly pan ddywedwn ein bod ar gyfer pawb, rydym eisiau i bawb deimlo'n gartrefol yn ein timau hefyd.

  • Cynllun pensiwn sylweddol hyd at 10% o gyflog sylfaenol
  • Mynediad am ddim i eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, i chi, gwestai a'ch plant (dan 18 oed)
  • Cynllun gofal plant di-dreth
  • Cynllun benthyciad blaendal rhent
  • Benthyciad tocyn tymor
  • Gostyngiadau buddion y gweithle, h.y. aelodaeth gampfa, codau gostyngiad siopa, gostyngiadau ar gyfer y sinema
  • Lwfans gwyliau hyd at 32 diwrnod mewn perthynas â hyd y gwasanaeth, yn ogystal â chynllun prynu gwyliau, yn amodol ar fodloni meini prawf gofynnol.
  • Oriau gweithio hyblyg lle bynnag y bo'n bosibl
  • Rhaglen cynorthwyo cyflogai
  • Parcio am ddim yn y rhan fwyaf o leoliadau
  • Cyngor ariannol annibynnol
Email this Job