Leave us your email address and we'll send you all the new jobs according to your preferences.
ARTISTIC DIRECTOR
Posted 7 hours 36 minutes ago by SHERMAN THEATRE
The Sherman Theatre in Cardiff is one of the UK's most important producing theatres presenting a broad and inclusive programme with a focus on new writing. Its 'Made at Sherman' strand showcases new work by Welsh and Wales-based writers telling stories that resonate with local audiences, across South Wales and beyond. The Sherman boasts outstanding facilities with the Main House and Studio theatres, significant production capability and rehearsal spaces.
Talent development for all ages is central to the Sherman, from the celebrated Youth Theatre to its Literary Department, identifying and nurturing outstanding playwrights of tomorrow. The Sherman is one of five major theatres and cultural institutions across Wales partnering in the delivery of Craidd, a multi-year programme to create and present theatre productions with Deaf and disabled theatre artists. A designated Theatre of Sanctuary, the Sherman welcomes refugees and asylum seekers, providing a safe space and opportunities to forge connections with the local community.
The Sherman is now appointing a new Artistic Director to sustain its artistic excellence, audience growth and transformative community engagement, taking the theatre to new heights. Collaborating closely with the Chief Executive and reporting to the Board, the Artistic Director will be responsible for developing a distinctive artistic vision that encompasses all strands of the Sherman's work, inspiring its many stakeholders. Leading the realisation of all the company's productions and co-productions to the highest possible standards, they will direct an agreed number of productions each season, assembling and supporting creative teams. A passionate spokesperson for the Sherman, the Artistic Director will enhance its reputation externally, leveraging new support and opportunities whilst staying up to date with wider sector developments.
The successful candidate will bring a strong track record of developing and directing successful professional productions and co-productions at different scales for a broad range of audiences; commissioning and nurturing writers; and delivering ambitious artistic plans aligned to the organisational mission on time and within budget.
For more information about the role and how to apply please download an information pack from our recruitment consultants, AEM International Ltd,
The deadline for applications is 5pm on Thursday 27 March.
The Sherman is committed to being a diverse and inclusive space and particularly welcomes applications from communities and individuals who are currently underrepresented in the team. The Sherman is a member of the Disability Confident scheme, and their building is accessible both Front of House and backstage.
CYFARWYDDWR ARTISTIG, THEATR Y SHERMAN
Theatr y Sherman yng Nghaerdydd yw un o theatrau cynhyrchu pwysicaf gwledydd Prydain, ac mae'n cyflwyno rhaglen eang a chynhwysol sy'n canolbwyntio ar waith ysgrifennu newydd. Mae ei llinyn 'Crëwyd yn y Sherman' yn arddangos gwaith newydd gan awduron sy'n byw yng Nghymru neu sy'n dod o Gymru, gan adrodd straeon sy'n taro tant gyda chynulleidfaoedd lleol, ar draws y de-ddwyrain a'r tu hwnt. Mae gan y Sherman gyfleusterau rhagorol yn theatrau'r Prif Dŷ a'r Stiwdio, a gofodau ymarfer a chapasiti cynhyrchu sylweddol.
Mae datblygu doniau o bob oed yn ganolog i'r Sherman, o'r Theatr Ieuenctid adnabyddus i'r Adran Lenyddol, sy'n canfod ac yn meithrin dramodwyr rhagorol y dyfodol. Mae'n un o bum theatr a sefydliad diwylliannol mawr ar draws y wlad sy'n dod ynghyd i gyflwyno Craidd, sef rhaglen sawl blwyddyn i greu a chyflwyno cynyrchiadau theatr gydag artistiaid theatr Byddar ac anabl. Mae'r Sherman hefyd yn Theatr Noddfa ddynodedig sy'n croesawu ffoaduriaid a cheiswyr lloches, gan ddarparu gofod diogel a chyfleoedd i feithrin cysylltiadau gyda'r gymuned leol.
Mae'r Sherman am benodi Cyfarwyddwr Artistig newydd i gynnal ei rhagoriaeth artistig, datblygiad y gynulleidfa a gwaith ymgysylltu cymunedol gweddnewidiol, gan fynd â'r theatr i uchelfannau newydd. Bydd y Cyfarwyddwr Artistig yn cydweithio'n agos â'r Prif Weithredwr ac yn adrodd i'r Bwrdd, a bydd yn gyfrifol am ddatblygu gweledigaeth artistig nodedig sy'n cwmpasu pob llinyn o waith y Sherman, gan ysbrydoli ei rhanddeiliaid niferus. Bydd yn arwain y gwaith o wireddu holl gynyrchiadau a chyd-gynyrchiadau'r cwmni i'r safonau uchaf posibl, gan gyfarwyddo nifer i'w gytuno o gynyrchiadau bob tymor, a chynnull a chefnogi timau creadigol. Bydd y Cyfarwyddwr Artistig yn llefarydd angerddol ar ran y Sherman, a bydd yn hybu ei henw da yn allanol, gan sbarduno cefnogaeth a chyfleoedd newydd a sicrhau ar yr un pryd ei bod yn aros yn wybodus ac yn flaenllaw o ran datblygiadau ehangach yn y sector.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dod â hanes cryf o ddatblygu a chyfarwyddo cynyrchiadau a chyd-gynyrchiadau proffesiynol llwyddiannus ar wahanol raddfeydd ar gyfer ystod eang o gynulleidfaoedd; comisiynu a meithrin awduron; a chyflawni cynlluniau artistig uchelgeisiol sy'n cyd-fynd â chenhadaeth y sefydliad, a hynny ar amser ac o fewn y gyllideb.
I gael rhagor o wybodaeth am y swydd a sut i wneud cais, llwythwch becyn gwybodaeth i lawr gan yr ymgynghorwyr recriwtio, AEM International Ltd, .
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5pm ddydd Iau 27 Mawrth.
Mae'r Sherman wedi ymrwymo i fod yn ofod amrywiol a chynhwysol ac mae'n croesawu'n arbennig geisiadau gan gymunedau ac unigolion sy'n cael eu tangynrychioli yn y tîm ar hyn o bryd. Mae'r Sherman yn aelod o'r cynllun Hyderus o ran Anabledd ac mae'r adeilad yn hygyrch, ym Mlaen y Tŷ a gefn llwyfan.
SHERMAN THEATRE
Related Jobs
Verkäufer Backshop (m/w/d)
- Brandenburg, Glienicke, Germany, 16909
Verkäufer Backshop (m/w/d)
- Brandenburg, Potsdam, Germany, 14467
Verkäufer Mit Kassiertätigkeit (m/w/d)
- Sachsen, Oelsnitz, Germany, 01561
Mitarbeiter Warenverräumung (m/w/d)
- Hessen, Bad Nauheim, Germany, 61231
Verkäufer Obst & Gemüse (m/w/d)
- Thüringen, Jena, Germany, 07743