University Secretary

Posted 5 hours 14 minutes ago by Cardiff Metropolitan University

Permanent
Full Time
Secretarial & PA Jobs
Cardiff, United Kingdom
Job Description

Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Ysgrifenydd y Brifysgol
Cyflog cystadleuol

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn sefydliad blaengar ac uchelgeisiol, yn brifysgol fodern flaenllaw gyda phroffil dysgu, addysgu, ymchwil ac arloesi unigryw ar draws ystod eang o ddisgyblaethau. Daw ysbrydoliaeth Prifysgol Metropolitan Caerdydd o dros 150 mlynedd o ymrwymiad i addysg fel grym er daioni ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd a thu hwnt. Gyda dros 12,000 o fyfyrwyr ar draws dau gampws bywiog yng Nghaerdydd a 18,000 yn fwy o ddysgwyr yn astudio trwy 12 partner rhyngwladol, mae ein cymuned o 30,000 o bobl yn wirioneddol fyd-eang ac wedi ei huno gan ein hymrwymiad cyffredin i ddatblygu diwylliant o urddas a pharch at bawb wrth weithio ac astudio. Rydym yn falch o fod yn Brifysgol Noddfa gyntaf Cymru, daliwr Gwobr Sefydliadol Arian Athena Swan, a'r brifysgol orau yng Nghymru yng Nghynghrair People and Planet 23/24.

Un o'n prif uchelgeisiau yw ymrwymo i roi llwyddiant ein myfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi cymryd camau breision o ran gwella ein statws yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr, ac roeddem yn falch o fod yn gyntaf yng Nghymru yn arolwg Hynt Graddedigion 2024. Llwyddom i ennill ein safle gorau yn y Times and Sunday Times Good University Guide a ni oedd y dringwr pennaf yng Nghymru; fe wnaethom ddringos 18 lle yn y Guardian University Guide, a chawsom ein dewis fel 'Prifysgol y Flwyddyn yng Nghymru' gan The Mail University Guide 2025'.

Rydym nawr yn chwilio am arweinydd ysbrydoledig ac arloesol i ymuno â ni fel Ysgrifennydd y Brifysgol. Bydd Ysgrifenydd y Brifysgol yn adrodd i Gadeirydd Bwrdd y Llywodraethwyr a chyda chyswllt anuniongyrchol â'r Llywydd a'r Is-Ganghellor, ac yn un o uwch swyddogion y Brifysgol, gyda chyfrifoldeb ar draws y sefydliad am lywodraethu, materion cyfreithiol a sicrhau cydymffurfiaeth.

Bydd deiliad y swydd yn sicrhau bod Bwrdd y Llywodraethwyr a'i bwyllgorau yn cael eu cynghori a'u cefnogi ar lefel uwch, bod safonau llywodraethu uchel yn cael eu cynnal, a bod busnes yn cael ei gynnal yn broffesiynol, yn effeithiol ac yn effeithlon. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am oruchwylio a sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion rheoliadol ar draws ystod o weithgareddau'r Brifysgol a sicrhau bod yr Is-ganghellor, Bwrdd y Llywodraethwyr a grŵp gweithredol y Brifysgol yn cael eu cynghori ar bob mater sy'n ymwneud â chydymffurfiaeth, rheoleiddio a sicrwydd. .

Bydd gan ymgeiswyr brofiad sylweddol mewn rôl lywodraethu a chydymffurfio uwch mewn sector rheoledig cymhleth ynghyd â phrofiad sylweddol o gefnogi Byrddau a phwyllgorau. Byddwch yn dod â gwybodaeth drylwyr am reoleiddio, cydymffurfio ac arfer gorau a hanes blaenorol o arwain, rheoli a datblygu pobl. Bydd gennych hefyd sgiliau cynllunio rhagorol, a sgiliau dadansoddi a datrys problemau datblygedig, a hanes blaenorol o gyflawni cynlluniau i gyflawni nodau penodol. Byddwch yn hyderus yn eich gallu i gynrychioli'r Brifysgol wrth ymgysylltu â chyrff allanol ac agendâu polisi ac i ddylanwadu arnynt.

Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno ag un o brifysgolion modern mwyaf unigryw a blaengar y DU. Cewch gyfle i fod wrth wraidd siapio newid drwy arwain y gwaith o drawsnewid ein portffolio, perfformiad a chyllid i sicrhau bod canlyniadau cymdeithasol ac economaidd rhagorol yn cael eu cyflawni i'n myfyrwyr a'n cymunedau, a hynny wrth weithio yn un o ddinasoedd mwyaf bywiog a chosmopolitan Ewrop, prifddinas Caerdydd yng Nghymru.

I ddarganfod mwy am y cyfle hwn, ewch i

I gael sgwrs gyfrinachol, cysylltwch â'n hymgynghorwyr cynghori yn Anderson Quigley: Alicja Janowska yn , (0) neu Elliott Rae yn , (0).

Dyddiad cau: hanner dydd, dydd Llun 10 Chwefror 2025.

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd gwaith cynhwysol. Mae ein Cynllun Strategol yn sail i'n hymrwymiad i recriwtio a chadw'r doniau gorau ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o gefndiroedd amrywiol. Rydym yn penodi ar sail teilyngdod.

Cardiff Metropolitan University
University Secretary
Competitive remuneration

Cardiff Metropolitan University is an ambitious and progressive institution, a leading modern university with a distinctive profile for teaching, learning, research and innovation across a wide range of disciplines. The University draws its inspiration from over 150 years of commitment to education as a force for good in the Cardiff Capital Region. Wales and the world. With over 12,000 students across two vibrant Cardiff campuses and 18,000 more learners studying through 12 international partners, our community is truly global and united by our shared commitment to dignity and respect for all at work and study. We are proud to be Wales' first University of Sanctuary, the holder of a Silver Athena Swan Institutional Award, and the top university in Wales in the People and Planet League for the past two years.

Key among our ambitions is our commitment to putting student success at the heart of everything we do. This past year has seen us make significant strides in improving our standing in the National Student Survey, and we were proud to be first in Wales in the 2024 Graduate Outcomes survey. We achieved our best position in the Times and Sunday Times Good University Guide and were the biggest climber in Wales; we rose 18 places in the Guardian University Guide, and we were selected as The Mail University Guide 2025's 'Welsh University of the Year'.

We are now seeking an inspiring and innovative leader to join us in the role of University Secretary. Reporting to the Chair of the Board of Governors and with a dotted line to the President and Vice-Chancellor, the University Secretary is one of the senior officers of the University, with organisation-wide responsibility for governance, legal affairs and compliance assurance.

The post-holder will ensure that the Board of Governors and its committees are advised and supported at a senior level, that high standards of governance are maintained, and that business is conducted professionally, effectively and efficiently. The post-holder is responsible for overseeing and ensuring compliance with regulatory requirements across a range of the University's activities and ensuring that the Vice-Chancellor, the Board of Governors and the University executive group are advised on all matters relating to compliance, regulation and assurance.

Candidates will bring significant experience in a senior governance and compliance role in a complex regulated sector along with substantial experience of supporting Boards and committees. You will bring a thorough knowledge of regulation, compliance and best practice and a track record of leading, managing and developing people. You will also have excellent planning skills, allied to well-developed analytical and problem-solving skills, and a track record of delivering on plans to achieve targeted goals. You be confident in your ability to represent the University whilst engaging with and influencing external bodies and policy agendas.

This is an exciting time to join one of the UK's most distinctive and progressive modern universities. You will have the opportunity to work with the Board of Governors and the executive team, focused on the delivery of our strategy and maintaining the University's good standing in governance, compliance, assurance and conditions of registration, all while working in Wales' capital, one of Europe's fastest-growing, most vibrant and cosmopolitan cities.

To find out more about this opportunity, please visit

For a confidential discussion, please contact our advising consultants at Anderson Quigley: Alicja Janowska at , (0); or Elliott Rae at , (0).

Closing date: noon on Monday 10 th February 2025.

We are committed to supporting and promoting equality and diversity and to creating an inclusive working environment. Our Strategic Plan underpins our commitment to recruit and retain the best talent and we welcome applications from people from diverse backgrounds. We appoint on merit.