Social Worker
Posted 1 day 17 hours ago by CARDIFF COUNTY COUNCIL
We are looking for Social Workers who are passionate about the rights of people with a learning disability and want to be part of a service which delivers high quality support enabling people to live full and varied lifestyles.
An exciting opportunity has arisen for a qualified Social Worker to join the Adult Learning Disability Team based in Cardiff Adult Services. We are seeking a part-time Grade 8 Social Worker to join us. This is a great time to join the service as we have increased capacity to support staff development and strengthen our high quality services.
We are looking for Social Workers who have in depth understanding of the principles of the Social Services and Wellbeing Act and who have skills in undertaking strength-based / outcome focused assessments and court work, as well as the effective management of a complex case load. Additionally, this post includes assessing risk and supporting people to manage these risks positively.
Experience of working with people with a learning disability and autism is essential. Our Learning Disability teams are part of the directorate of Adults, Housing & Communities in Cardiff Council. As a directorate we recognise that social workers are skilled professionals who make a real and material difference to people's lives every day. We have two Learning Disability teams that cover the East and West of Cardiff. Our staff work alongside a specialist health team and offer multi-disciplinary support to local people. We support individuals to access a wide range of services with a focus on inclusion and supporting people to meet their outcomes.
Rydym yn chwilio am Weithwyr Cymdeithasol sy'n angerddol am hawliau pobl ag anableddau dysgu ac sydd am fod yn rhan o wasanaeth sy'n darparu cefnogaeth o ansawdd uchel sy'n galluogi pobl i fyw bywydau llawn ac amrywiol. Mae cyfle cyffrous wedi codi i Weithiwr Cymdeithasol cymwys ymuno â'r Tîm Anableddau Dysgu Oedolion yng Ngwasanaethau Oedolion Caerdydd. Rydym yn chwilio am Weithiwr Cymdeithasol Gradd 8 i ymuno â ni. Mae hwn yn amser gwych i ymuno â'r gwasanaeth gan ein bod wedi cynyddu capasiti i gefnogi datblygiad staff a chryfhau ein gwasanaethau o ansawdd uchel. Rydym yn chwilio am Weithiwyr Cymdeithasol sydd â dealltwriaeth fanwl o egwyddorion y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles ac sydd â sgiliau mewn cynnal asesiadau a gwaith llys sy'n seiliedig ar gryfder / sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau, yn ogystal â rheoli llwyth achosion cymhleth yn effeithiol. Yn ogystal, mae'r swydd hon yn cynnwys asesu risg a chefnogi pobl i reoli'r risgiau hyn yn gadarnhaol. Mae profiad o weithio gyda phobl ag anabledd dysgu ac awtistiaeth yn hanfodol.
Mae ein timau Anableddau Dysgu yn rhan o gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau o fewn Cyngor Caerdydd. Fel cyfarwyddiaeth, rydym yn cydnabod bod gweithwyr cymdeithasol yn weithwyr proffesiynol medrus sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a materol i fywydau pobl bob dydd. Mae gennym ddau dîm anableddau dysgu sy'n cwmpasu dwyrain a gorllewin Caerdydd. Mae ein staff yn gweithio ochr yn ochr â thîm iechyd arbenigol ac yn cynnig cymorth amlddisgyblaethol i bobl leol. Rydym yn cefnogi unigolion i gael mynediad at ystod eang o wasanaethau gan ganolbwyntio ar gynhwysiant a chefnogi pobl i gyflawni eu canlyniadau. Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â gwasanaeth sy'n mynd ati i hyrwyddo arfer gorau ac sy'n cefnogi gweithio ar sail cryfderau gyda'i ymarferwyr. Mae gennym feysydd o arfer da cenedlaethol ac rydym yn awyddus i adeiladu ar y rhain a datblygu cyfleoedd lleol pellach o ansawdd uchel i fodloni canlyniadau pobl. Mae Caerdydd yn lle gwych i fyw a gweithio. Mae Caerdydd yn ymfalchïo yn ei statws fel prifddinas a dinas fwyaf Cymru. Mae ganddi gymeriad unigryw ag ansawdd bywyd rhagorol ac enw da yn rhyngwladol am ei hamrywiaeth eang o atyniadau diwylliannol, chwaraeon a theuluol. Ai nawr yw'r amser iawn i chi weithio ym mhrifddinas Cymru gyda'i chymunedau bywiog ac amrywiol a'i hystod o brofiadau gwaith gwahanol? Byddem wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych.