Financial Wellbeing Project Manager
Posted 1 day 3 hours ago by St Giles Trust
Based in one of St Giles offices across Wales - Cardiff, Newport, Swansea or Wrexham with frequent travel across Wales and hybrid working.
Ref: FBD-242
Are you an influential, collaborative and compassionate individual with a proven record of managing and supervising staff to successfully deliver services with KPIs, quality standards and/or targets? Do you have experience of working in or managing services supporting male offenders (age 18+) in community settings?
If so, St Giles is looking for a Financial Wellbeing Project Manager to join our team and support the management of HMPPS Contracts delivering Financial Wellbeing services across Wales.
About St Giles Trust
An ambitious, well-established charity that helps people facing adversity to find jobs, homes and the right support they need. Central to our ethos is our belief that people with first-hand experience of successfully overcoming issues such as an offending background, homelessness, addictions and gang involvement, hold the key to positive change in others.
About this vital role
Our successful candidate s focus will be to provide operational management support across one or more contracts awarded by the HMPPS to deliver Finance, Benefit and Debt (FBD) services in Wales. This will see you provide leadership and operational management support in debt and welfare benefits to a team of Financial Wellbeing Coaches (FWCs), Team Leaders and Administration team employed in the delivery of the contracts, and to plan and support the day-to-day workload for the team and setting performance objectives with the team and monitor progress.
You will also be expected to monitor and manage all aspects of delivery and performance to ensure compliance with policy and procedures and to manage partnerships including local and national delivery partners and any agencies with whom we are developing referral arrangements. Developing and maintaining strong working relationships with local Wales Probation managers and staff and other external stakeholders is an essential part of this role, as is providing regular reports in a range of formats to the Service Manager and monitoring use of the Customer Approved Database including regular reports on usage to ensure accuracy and timeliness of inputting by teams.
What we are looking for
- Experience of working in or managing services supporting challenging people
- Experience in working in or managing multi-agency partnerships working towards common objectives and outcomes
- Evidence of training at specialist level in money and/or welfare benefits advice from an accredited training provider
- Knowledge and understanding of the requirements of managing a caseload
- Wide range of money advice knowledge, budgeting, dealing with priority and non-priority debts, County Court/High Court options, insolvency options and welfare benefits
- Ability to coach and mentor staff to motivate and facilitate optimum performance in a team
- Strong IT, interpersonal and communication skills, both verbal and written.
As an organisation that works with children and adults at risk we are committed to safeguarding, protecting and promoting the safety of our clients and successful applicants will require an Enhanced Child and Adult with Child Barred DBS Check.
We actively encourage people with personal experience of the criminal justice system or lived experience of the issues facing this client group to apply for this role.
In return, you can expect a competitive salary, generous leave allowance, staff pension, flexible working, a mentoring programme, an advice and counselling service, clinical therapist sessions, life insurance (4 x annual salary), duvet days, season ticket loan, employee perks programme, eye care voucher and much more.
We are an equity and inclusion confident employer. We welcome all applications and we particularly encourage applications from people of the global majority (black, brown, multi- heritage) and those who identify as disabled, neuroexpansive, neurodiverse, with any protected characteristics and/or social barriers or challenges. We value the empowering and informative impact that all lived experiences and diversity of thought can offer the organisation.
St Giles will guarantee to interview all disabled applicants who meet the minimum criteria set out in the Job Description for the vacancy.
To apply please request an application form from our HR Team, via the apply button, stating the job title and ref number.
Closing date: 11:00pm 8th December 2024. Interview date: Tuesday 17th December 2024.
Ydych chi'n unigolyn dylanwadol, cydweithredol a thosturiol sydd â hanes profedig o reoli a goruchwylio staff i ddarparu gwasanaethau gyda dangosyddion perfformiad allweddol (KPI), safonau ansawdd a/neu dargedau yn llwyddiannus? Oes gennych chi brofiad o reoli neu weithio mewn gwasanaethau sy'n cefnogi troseddwyr gwrywaidd (18+ oed) mewn lleoliadau cymunedol?
Os felly, mae St Giles yn chwilio am Reolwr Prosiect Lles Ariannol i ymuno â'n tîm a chefnogi'r gwaith o reoli contractau HMPPS sy'n darparu gwasanaethau lles ariannol ledled Cymru.
Am Ymddiriedolaeth St Giles
Elusen uchelgeisiol, sefydledig sy'n helpu pobl sy'n wynebu adfyd i ddod o hyd i swyddi, cartref a'r cymorth cywir y mae ei angen arnynt. Yn ganolog i'n hethos mae ein cred bod pobl sydd â phrofiad uniongyrchol o oresgyn problemau, megis cefndir troseddol, digartrefedd, dibyniaeth a bod mewn gang, yn allweddol i newid cadarnhaol mewn eraill.
Am y rôl hanfodol hon
Ffocws ein hymgeisydd llwyddiannus fydd darparu cymorth rheoli gweithredol ar draws un neu fwy o gontractau a ddyfernir gan HMPPS i ddarparu gwasanaethau Cyllid, Budd-dal a Dyled (FBD) yng Nghymru. Bydd hyn yn golygu eich bod yn darparu cymorth arweinyddiaeth a rheolaeth weithredol mewn dyled a budd-daliadau lles i dîm o Hyfforddwyr Lles Ariannol (FWC), arweinwyr tîm a thîm gweinyddol a gyflogir wrth gyflawni'r contractau, ac i gynllunio a chefnogi llwyth gwaith dydd i ddydd y tîm, a gosod amcanion perfformiad gyda'r tîm a monitro cynnydd.
Bydd disgwyl i chi hefyd fonitro a rheoli pob agwedd ar gyflawni a pherfformiad er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â pholisi a gweithdrefnau, a rheoli partneriaethau gan gynnwys partneriaid cyflenwi lleol a chenedlaethol ac unrhyw asiantaethau yr ydym yn datblygu trefniadau atgyfeirio â hwy. Mae datblygu a chynnal perthynas waith gref gyda rheolwyr a staff lleol Prawf Cymru a rhanddeiliaid allanol eraill yn rhan hanfodol o'r rôl hon, yn ogystal â darparu adroddiadau rheolaidd mewn amrywiaeth o fformatau i'r Rheolwr Gwasanaeth a monitro'r defnydd o'r Gronfa Ddata a Gymeradwyir gan Gwsmeriaid, gan gynnwys adroddiadau rheolaidd ar ddefnydd i sicrhau cywirdeb ac amseroldeb mewnbynnu gan dimau.
Am beth rydym yn chwilio
- Profiad o weithio neu reoli gwasanaethau sy'n cefnogi pobl heriol.
- Profiad o weithio mewn neu reoli partneriaethau amlasiantaeth sy'n gweithio tuag at amcanion a chanlyniadau cyffredin.
- Tystiolaeth o hyfforddiant ar lefel arbenigol mewn arian a/neu gyngor ar fudd-dal lles gan ddarparwr hyfforddiant achrededig.
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o ofynion rheoli llwyth achos.
- Ystod eang o wybodaeth am gyngor ariannol, cyllidebu, delio â dyledion blaenoriaeth ac nad ydynt yn flaenoriaeth, opsiynau Llys Sirol/Uchel Lys, opsiynau ansolfedd, a budd-daliadau lles.
- Gallu i hyfforddi a mentora staff i gymell a hwyluso'r perfformiad gorau posib o fewn tîm.
- Sgiliau TG, rhyngbersonol a chyfathrebu cryf, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Fel sefydliad sy'n gweithio gyda phlant ac oedolion wrth risg, rydym wedi ymrwymo i amddiffyn, diogelu a hyrwyddo diogelwch ein cleientiaid, a bydd angen Gwiriad DBS Plant ac Oedolion Uwch a Gwiriad y Rhestr Gwahardd rhag Gweithio gyda Phlant.
Rydym yn mynd ati i annog pobl sydd â phrofiad personol o'r system cyfiawnder troseddol neu brofiad byw o'r materion y mae'r grŵp cleientiaid hwn yn eu hwynebu i wneud cais am y rôl hon.
Yn gyfnewid am hyn, gallwch ddisgwyl cyflog cystadleuol, lwfans gwyliau hael, pensiwn staff, gweithio hyblyg, rhaglen fentora, gwasanaeth cyngor a chwnsela, sesiynau therapyddion clinigol, yswiriant bywyd (4 x cyflog blynyddol), dyddiau diog, benthyciad tocyn tymor, rhaglen buddion gweithwyr, taleb gofal llygaid, a llawer mwy.
Rydym yn gyflogwr hyderus o ran ecwiti a chynhwysiant. Rydym yn croesawu pob cais, ac rydym yn annog yn arbennig ceisiadau gan bobl o'r mwyafrif byd-eang (du, brown, aml-etifeddiaeth), a'r rhai sy'n nodi eu bod yn anabl, niwro-eang, niwroamrywiol, gydag unrhyw nodweddion gwarchodedig a/neu rwystrau neu heriau cymdeithasol. Rydym yn gwerthfawrogi'r effaith rymusol ac addysgiadol y gall pob profiad byw ac amrywiaeth meddwl ei gynnig i'r sefydliad.
Bydd St Giles yn gwarantu cyfweld â phob ymgeisydd anabl sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol a nodir yn y Disgrifiad Swydd ar gyfer y swydd wag.
I wneud cais, gofynnwch am ffurflen gais gan ein Tîm Adnoddau Dynol, drwy'r botwm ymgeisio, gan nodi teitl a rhif cyfeirnod y swydd.